Ymgynghoriad Lefi CITB 2026-29
Cyflwyniad
Byddem yn croesawu eich cyfranogiad mewn: Ymgynghori ar y Cynigion Lefi ar gyfer y tair blynedd nesaf (2026-29)
Mae'r her yn glir. Mae ein rhagolwg diwydiant diweddaraf yn dangos y bydd angen 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol yn y DU dros y pum mlynedd nesaf i ateb y galw. Mae gwaith adeiladu yn cyfrif am 6.2% o economi Prydain Fawr a disgwylir iddo dyfu ymhellach, gyda phrosiectau adeiladu cartrefi a seilwaith yn uchel ar agenda'r Llywodraeth. Ni fu erioed yn bwysicach sicrhau bod gan y diwydiant y sgiliau cywir.
Er mwyn mynd i'r afael â'r anghenion hyn, mae gennym gynlluniau cadarn ar gyfer buddsoddi Lefi CITB, gan gynnwys:
- Buddsoddi £868 miliwn mewn sgiliau adeiladu dros oes Gorchymyn Lefi 2026-2029
- Gwella ansawdd a gallu rhwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant, a fydd yn ganolog i gymorth hyfforddiant CITB
- Ehangu’r Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i adeiladu llif cryf o dalent yn y diwydiant adeiladu
- Grymuso busnesau drwy ehangu ein Rhwydwaith Cyflogwyr newydd.
Bydd eich llais yn gwneud gwahaniaeth wrth lunio dyfodol ein diwydiant. Rhannwch eich sylwadau.