Adolygiad Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau

Closed 26 Nov 2021

Opened 6 Oct 2021

Overview

Pam bod CITB yn adolygu Safonau a Grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau? 

Yn 2018, cyflwynodd CITB y Model Hyfforddiant sy’n cynnwys safonau hyfforddiant cyfnod byr, ynghyd â’r Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu a’r Gofrestr Hyfforddiant. Rhan o’n gweledigaeth ar gyfer y Model Hyfforddiant yw bod pob hyfforddiant cyfnod byr â chymorth grant yn cael ei ddarparu i safonau y cytunwyd arnynt, sydd wedi cael eu datblygu gyda diwydiant. Ein dull yw dysgu o'r hyn sy’n bodoli eisoes a chreu safonau hyfforddiant sy’n niwtral i unrhyw ddarparwr posib. Yn eu fformat cyfredol, nid yw Safonau a Grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau’n cyd-fynd â strwythur Model Hyfforddiant CITB. 

Mae’n bwysig nodi bod yr adolygiad hwn yn edrych ar Weithrediadau Peiriannau adeiladu h.y. y rhai sy’n gweithredu peiriannau adeiladu. Mae hefyd yn canolbwyntio ar hyfforddiant cyfnod byr nid NVQ neu ofynion cerdyn glas o’r cynlluniau cerdyn. 

Egwyddorion arweiniol ar gyfer yr adolygiad hwn

Y man cychwyn ar gyfer yr adolygiad hwn yw y dylai dull CITB tuag at safonau a chefnogaeth grant:  

  1. Fod yn seiliedig ar safbwynt y diwydiant ar ofynion hyfforddiant ac asesu (profi) y cytunwyd arno. 

  1. Cefnogi ac annog hyfforddiant o ansawdd 

  1. Fod yn seiliedig ar safon sy'n deillio o'r diwydiant y gall unrhyw sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo gan CITB ac y mae ei gynhyrchion yn bodloni’r safon 

  1. Cydnabod y gwahaniaethau o ran hyd hyfforddiant a chost ar draws gwahanol fathau o beiriannau 

  1. Alinio fformat safonau a strwythur cymorth grant gyda gweddill y sector adeiladu. 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn profi syniadau ar gyfer strwythur y safonau a'r grantiau newydd yn ymwneud â pheiriannau. 

Gyda phwy rydym yn gweithio ac yn ymgynghori?

Bydd Tîm Ymgysylltu CITB yn targedu cyflogwyr penodol er mwyn sicrhau ein bod yn casglu barn gan ystod lawn o gyflogwyr adeiladu a defnyddwyr gwahanol gynlluniau cerdyn. Fodd bynnag, gall unrhyw gyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB sy’n dymuno cwblhau'r arolwg gael mynediad at yr arolwg trwy wefan CITB. Mae hefyd cyfle i gyflogwyr gofrestru diddordeb mewn gweithio gyda CITB i helpu i lywio’r safonau newydd, trwy'r arolwg. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Sefydliad sy'n Cynrychioli'r Sector Peiriannau (PSRO) sy’n cynrychioli buddiannau peiriannau o saith ffederasiwn. 

Sut bydd y wybodaeth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio?

Dadansoddir y canlyniadau gan dîm traws-adran CITB sy'n arwain ar yr adolygiad. Byddwn hefyd yn cynnwys arbenigwyr pwnc peiriannau mewnol ac allanol yn ôl yr angen. Yna bydd y cynigion o ran safonau a grantiau peiriannau terfynol yn cael eu datblygu cyn eu rhannu gyda'r sefydliadau a'r unigolion hynny sydd wedi cymryd rhan, a chyrff allweddol eraill. 

What happens next

Unwaith y bydd yr ymgynghori a'r dadansoddiad wedi'u cwblhau, byddwn mewn sefyllfa i ddatblygu'r Safonau Hyd Byr Planhigion newydd. Fel Corff Gosod Safonau, mae gan CITB dîm o ddatblygwyr safonau sydd â'r profiad technegol i ddatblygu safonau adeiladu. Byddwn yn defnyddio cynrychiolwyr y diwydiant i ddarparu arbenigedd penodol, ac i sicrhau bod y safonau sy'n cael eu datblygu yn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu.