Adolygiad Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau
Overview
Pam bod CITB yn adolygu Safonau a Grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau?
Yn 2018, cyflwynodd CITB y Model Hyfforddiant sy’n cynnwys safonau hyfforddiant cyfnod byr, ynghyd â’r Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu a’r Gofrestr Hyfforddiant. Rhan o’n gweledigaeth ar gyfer y Model Hyfforddiant yw bod pob hyfforddiant cyfnod byr â chymorth grant yn cael ei ddarparu i safonau y cytunwyd arnynt, sydd wedi cael eu datblygu gyda diwydiant. Ein dull yw dysgu o'r hyn sy’n bodoli eisoes a chreu safonau hyfforddiant sy’n niwtral i unrhyw ddarparwr posib. Yn eu fformat cyfredol, nid yw Safonau a Grantiau Hyfforddiant Cyfnod Byr Peiriannau’n cyd-fynd â strwythur Model Hyfforddiant CITB.
Mae’n bwysig nodi bod yr adolygiad hwn yn edrych ar Weithrediadau Peiriannau adeiladu h.y. y rhai sy’n gweithredu peiriannau adeiladu. Mae hefyd yn canolbwyntio ar hyfforddiant cyfnod byr nid NVQ neu ofynion cerdyn glas o’r cynlluniau cerdyn.
Egwyddorion arweiniol ar gyfer yr adolygiad hwn
Y man cychwyn ar gyfer yr adolygiad hwn yw y dylai dull CITB tuag at safonau a chefnogaeth grant:
-
Fod yn seiliedig ar safbwynt y diwydiant ar ofynion hyfforddiant ac asesu (profi) y cytunwyd arno.
-
Cefnogi ac annog hyfforddiant o ansawdd
-
Fod yn seiliedig ar safon sy'n deillio o'r diwydiant y gall unrhyw sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo gan CITB ac y mae ei gynhyrchion yn bodloni’r safon
-
Cydnabod y gwahaniaethau o ran hyd hyfforddiant a chost ar draws gwahanol fathau o beiriannau
-
Alinio fformat safonau a strwythur cymorth grant gyda gweddill y sector adeiladu.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn profi syniadau ar gyfer strwythur y safonau a'r grantiau newydd yn ymwneud â pheiriannau.
Gyda phwy rydym yn gweithio ac yn ymgynghori?
Bydd Tîm Ymgysylltu CITB yn targedu cyflogwyr penodol er mwyn sicrhau ein bod yn casglu barn gan ystod lawn o gyflogwyr adeiladu a defnyddwyr gwahanol gynlluniau cerdyn. Fodd bynnag, gall unrhyw gyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB sy’n dymuno cwblhau'r arolwg gael mynediad at yr arolwg trwy wefan CITB. Mae hefyd cyfle i gyflogwyr gofrestru diddordeb mewn gweithio gyda CITB i helpu i lywio’r safonau newydd, trwy'r arolwg.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Sefydliad sy'n Cynrychioli'r Sector Peiriannau (PSRO) sy’n cynrychioli buddiannau peiriannau o saith ffederasiwn.
Sut bydd y wybodaeth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio?
Dadansoddir y canlyniadau gan dîm traws-adran CITB sy'n arwain ar yr adolygiad. Byddwn hefyd yn cynnwys arbenigwyr pwnc peiriannau mewnol ac allanol yn ôl yr angen. Yna bydd y cynigion o ran safonau a grantiau peiriannau terfynol yn cael eu datblygu cyn eu rhannu gyda'r sefydliadau a'r unigolion hynny sydd wedi cymryd rhan, a chyrff allweddol eraill.
What happens next
Unwaith y bydd yr ymgynghori a'r dadansoddiad wedi'u cwblhau, byddwn mewn sefyllfa i ddatblygu'r Safonau Hyd Byr Planhigion newydd. Fel Corff Gosod Safonau, mae gan CITB dîm o ddatblygwyr safonau sydd â'r profiad technegol i ddatblygu safonau adeiladu. Byddwn yn defnyddio cynrychiolwyr y diwydiant i ddarparu arbenigedd penodol, ac i sicrhau bod y safonau sy'n cael eu datblygu yn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu.
Share
Share on Twitter Share on Facebook