Ymgynghori ar y Cynigion ar gyfer Lefi CITB

Closed 17 May 2020

Opened 16 Mar 2020

Overview

Gall eich barn wneud gwahaniaeth; rydym am glywed gennych!

PROSES YMGYNGHORI

Mae rhwymedigaeth statudol ar CITB, sef Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, i ymgynghori â chyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ar y cynigion ar gyfer Lefi CITB yn 2021-23. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cadarnhau ein cynlluniau a gofyn a ydych yn cefnogi’r cynigion terfynol ar gyfer y Lefi (Consensws).

Nawr yw’ch cyfle i roi adborth ar y cynigion ar gyfer y Lefi a dweud wrthym a ydym yn ei fuddsoddi yn y meysydd cywir i helpu i lywio ein cynllun tair blynedd. Dim ond 10 i 15 munud y bydd yn ei gymryd i chi wneud hyn.

Bydd gwybodaeth ychwanegol a chanllawiau ar gael ar waelod pob tudalen i’ch helpu i wneud eich penderfyniadau.

I gymryd rhan, mae angen i chi fod wedi cofrestru at ddibenion y Lefi. Bydd gofyn i chi roi’ch rhif cofrestru ar y dudalen ‘Ynglŷn â chi a’ch sefydliad’. Os oes gennych sawl rhif cofrestru, gallwch ddefnyddio unrhyw un ohonynt. Dim ond un ymateb y gallwn ei dderbyn gan bob cyflogwr cofrestredig. Felly, siaradwch â’ch cyd-weithwyr a sicrhewch fod yr ymateb yn cynrychioli barn y cwmni.

Sut mae’n gweithio

Drwy gytuno i gwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno y gallwn ddadansoddi’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni a’i chysylltu â data a gedwir gan CITB ar y proffil busnes sy’n gysylltiedig â’ch rhif cofrestru. Er enghraifft, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i weld a yw cynigion CITB yn effeithio’n arbennig ar unrhyw grwpiau o gyflogwyr, ond ni fyddwn yn enwi unigolion wrth roi gwybod am ein canfyddiadau.

Bydd y nodwedd ‘Cadw a dychwelyd yn ddiweddarach’ yn eich galluogi i ddychwelyd i’r ymgynghoriad heb golli’r wybodaeth rydych eisoes wedi’i rhoi. Mae angen i chi alluogi cwcis yn eich porwr i ddefnyddio’r nodwedd hon.