Ymgynghoriad Gradd Prentisiaethau Adeiladu Cymru

Closed 30 Sep 2023

Opened 14 Aug 2023

Overview

Mae CITB wedi bod yn arwain gwaith ar ran Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chynnig prentisiaethau gradd mewn Proffesiynau Adeiladu yng Nghymru.

Diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, HEFCW, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a thri prifysgol yng Nghymru, dylai’r garfan gyntaf o fyfyrwyr fod yn dechrau ar eu prentisiaethau a’u cyrsiau gradd mor gynnar â mis Medi 2024.

Mae Prifysgol De Cymru (USW), Prifysgol Cymru - y Drindod Dewi Sant a Prifysgol Wrecsam wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gynnig y rhaglenni gradd.

Mae’r prentisiaethau gradd newydd sy’n cael eu creu o dan y prosiect wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol gyda diwydiant, gan gynnwys peirianneg sifil, tirfesur, tirfesur meintiau a rheoli adeiladu.

Gan weithio’n agos gyda chyrff proffesiynol fel ICE, CIOB, RICS, CIHT ac eraill, nod y prosiect yw sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol lefel uwch sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad dwys sydd wedi’i gynnal hyd yma, rydym nawr yn ceisio barn ehangach ar y Sgiliau, Gwybodaeth ac Ymddygiadau ar gyfer pob galwedigaeth broffesiynol:

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r arolwg byr bydd yn gofyn i chi pa lwybr/llwybrau galwedigaeth rydych chi'n gwneud sylwadau arno.

Edrychwn ymlaen at eich ymateb, eich barn a’ch awgrymiadau.

Gareth Williams

Rheolwr Safonau a Chymwysterau CITB (Cymru)