Welsh CITB Levy 2022-25 Consultation

Closed 11 Apr 2021

Opened 1 Mar 2021

Overview

Gall eich sylwadau wneud gwahaniaeth; rydym am glywed gennych!

Mae CITB yn mabwysiadu’r ymarfer gorau drwy ymgynghori â chyflogwyr adeiladu ynglŷn â’r cynigion ar gyfer Lefi CITB. Nawr yw eich cyfle fel cyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB i roi eich adborth ar Gynigion y Lefi ar gyfer y tair blynedd nesaf yn ogystal â’r deg maes rydym wedi’u nodi sydd â’r angen mwyaf am ragor o gymorth i gyflogwyr ddatblygu sgiliau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yng nghyswllt Gorchymyn Lefi 2022 ar gyfer Cynigion y Lefi 2022-25. Ar ôl i'r Senedd gymeradwyo Gorchymyn y Lefi, mae hyn yn galluogi CITB i gyhoeddi Asesiadau’r Lefi ar gyfer cyfnod y Gorchymyn.  

Mae eich adborth ar Gynigion y Lefi yn bwysig oherwydd yn nes ymlaen eleni byddwn yn cadarnhau ein cynlluniau a Chynigion y Lefi terfynol 2022-25. Dyma pryd byddwn yn mynd i Gonsensws ar 14 Mehefin. Mae’r diagram hwn yn dangos sut mae’r ymgynghoriad ar Gynigion y Lefi yn chwarae rhan bwysig ym mhroses y Consensws.

Dim ond tua 10 munud ddylai gymryd i chi roi eich barn.

Sut mae’n gweithio

I gymryd rhan, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer Lefi a dim ond un cyflwyniad y gallwn ei dderbyn gan bob cyflogwr sydd wedi cofrestru ar gyfer y Lefi (cyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB), os oes gennych chi fwy nag un rhif cofrestru ar gyfer Lefi, gallwch ddefnyddio unrhyw un ohonynt. Rhaid i’ch cyflwyniad ddod yn uniongyrchol gan uwch-gynrychiolydd y cwmni; rydym yn cadw’r hawl i ddileu cyflwyniadau sydd wedi cael eu hanfon o’r un cyfeiriad IP.

Drwy gytuno i lenwi’r holiadur hwn, rydych yn cytuno i ni brosesu a dadansoddi’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu gyda ni, a gallwn gysylltu'r wybodaeth hon â data sydd gan CITB ar y proffil busnes sy’n gysylltiedig â’ch rhif cofrestru y Lefi. Er enghraifft, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i weld a yw cynigion CITB yn effeithio’n benodol ar unrhyw grwpiau o gyflogwyr, ond ni fyddwn yn enwi unigolion wrth adrodd ar ein canfyddiadau.

Bydd y nodwedd ‘Cadw a dychwelyd rywbryd eto’ yn golygu eich bod yn gallu dod yn ôl at yr ymgynghoriad yn nes ymlaen heb golli’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi’n barod. Mae angen i chi alluogi cwcis yn eich porwr gwe i ddefnyddio’r nodwedd hon.