Ymgynghoriad Gradd Prentisiaethau Adeiladu Cymru
Overview
Mae CITB wedi bod yn arwain gwaith ar ran Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chynnig prentisiaethau gradd mewn Proffesiynau Adeiladu yng Nghymru.
Diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, HEFCW, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a thri prifysgol yng Nghymru, dylai’r garfan gyntaf o fyfyrwyr fod yn dechrau ar eu prentisiaethau a’u cyrsiau gradd mor gynnar â mis Medi 2024.
O’r 9 Prifysgol yng Nghymru mae Prifysgol De Cymru (USW), Prifysgol Cymru - y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gynnig y rhaglenni gradd.
Mae’r prentisiaethau gradd newydd sy’n cael eu creu o dan y prosiect wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol gyda diwydiant, gan gynnwys peirianneg sifil, tirfesur, tirfesur meintiau a rheoli adeiladu.
Gan weithio’n agos gyda chyrff proffesiynol fel ICE, CIOB, RICS, CIHT ac eraill, nod y prosiect yw sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol lefel uwch sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Yn ammgaedig mae fersiwn terfynol o Ffaramwaith Prentisiaethau Gradd Adeiladwaith Cymru ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud a’r Fframwaith ei hyn a nid y Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiadau ymgynghorwyd a hwy yn ystod Hydref 2023.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud a’r Fframwaith ei hyn a nid y Gwybodaeth
Os oes gennych ynrhyw sylwadau cynnigiwch y rhain thrwy’r linc isod.
Edrychwn ymlaen at eich ymateb, eich barn a’ch awgrymiadau.
Gareth Williams
Rheolwr Safonau a Chymwysterau CITB (Cymru)
Share
Share on Twitter Share on Facebook