Opsiynau ar gyfer datblygu Fframwaith Newydd ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru

Closed 11 Mar 2021

Opened 25 Feb 2021

Overview

Mae CITB wedi cytuno â Llywodraeth Cymru i weithredu fel datblygydd fframweithiau/llwybrau prentisiaethau’r diwydiant adeiladu.

Mae hyn yn golygu mai CITB fydd y partner datblygu ar gyfer prentisiaethau sydd wedi’u cyllido’n gyhoeddus yng Nghymru. Fel partner datblygu, mae’n rhaid i CITB sicrhau bod gofynion Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru’n cael eu bodloni a gwneud ei orau glas i fodloni gofynion wrth ddatblygu ac adolygu unrhyw lwybr prentisiaeth yng Nghymru.

Fel rhan o’r rôl fel Partner Datblygu bydd CITB yn ymgynghori gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid pan fydd newidiadau yn cael eu cynnig gan y grŵp llywio cyn i unrhyw newidiadau cael eu gweithredu.