Prentisiaeth Radd mewn Technoleg Bensaernïol i Gymru – Ymgynghoriad
Overview
Trosolwg
Mae CITB wedi bod yn arwain gwaith ar ran Medr i ddatblygu ac i gynnig prentisiaeth radd mewn Technoleg Bensaernïol yng Nghymru. Diolch i bartneriaeth rhwng Medr, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), a dwy brifysgol yng Nghymru, disgwylir i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr ddechrau ar eu prentisiaethau a’u rhaglenni gradd cyn gynted â mis Medi 2026.
O blith y naw prifysgol yng Nghymru, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam wedi bod yn cydweithio â’r Sefydliad Siartredig o Dechnolegwyr Pensaernïol (CIAT) a gweithwyr proffesiynol/lleol i ddatblygu’r Sgiliau, Gwybodaeth ac Ymddygiadau fydd yn sail i’r brentisiaeth.
Mae’r brentisiaeth radd newydd sy’n cael ei chreu wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol gyda’r diwydiant, gan gynnwys cwmnïau a gweithdai dylunio.
Drwy gydweithio’n agos â CIAT, y corff proffesiynol sy’n cynrychioli Technolegwyr Pensaernïol, nod y brentisiaeth radd yw sicrhau bod graddedigion yn meddu ar y lefel uchel o wybodaeth broffesiynol a sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant.
Mae fersiwn derfynol Fframwaith Prentisiaeth Radd Technoleg Bensaernïol Cymru wedi’i hatodi ar gyfer ymgynghoriad ar ei Sgiliau, Gwybodaeth ac Ymddygiadau.
GSY Prentisiaethau Cymru
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y Fframwaith, rhowch y rhain drwy’r ddolen uchod.
Edrychwn ymlaen at eich ymateb, eich barn, a’ch awgrymiadau.
Gareth Williams
Arweinydd Safonau a Chymwysterau CITB (Cymru)
Share
Share on Twitter Share on Facebook