Prentisiaeth Lefel 4 Technegydd Peirianneg Sifil i Gymru – Ymgynghoriad
Overview
Trosolwg
Mae CITB wedi bod yn arwain gwaith ar ran Medr i ddatblygu ac i gynnig prentisiaeth Lefel 4 Technegydd Peirianneg Sifil yng Nghymru. Diolch i bartneriaeth rhwng Medr, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), a Choleg Caerdydd a’r Fro disgwylir i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr ddechrau ar eu prentisiaethau cyn gynted â mis Medi 2026.
O blith y colegau yng Nghymru, mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cydweithio â’r Sefydliad Peirianwyr Sifil ICE), Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE) a chwmnïau/sefydliadau lleol i ddatblygu’r Sgiliau, Gwybodaeth ac Ymddygiadau fydd yn sail i’r brentisiaeth.
Mae’r brentisiaeth dechnegol L4 newydd sy’n cael ei chreu wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol gyda’r diwydiant, gan gynnwys cwmnïau a Pheirianwyr Sifil.
Drwy gydweithio’n agos â ICE a’r IHE y cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli Peirianwyr Sifil siartredig nod y brentisiaeth yw sicrhau bod prentisiaid yn meddu ar y lefel uchel o wybodaeth broffesiynol a sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant.
Mae fersiwn derfynol Fframwaith Lefel 4 Technegydd Peirianneg Sifil i Gymru wedi’i hatodi ar gyfer ymgynghoriad ar ei Sgiliau, Gwybodaeth ac Ymddygiadau.
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y Fframwaith, rhowch y rhain drwy’r ddolen uchod.
Edrychwn ymlaen at eich ymateb, eich barn, a’ch awgrymiadau.
Prentisiaeth Lefel 4 Technegydd Peirianneg Sifil i Gymru
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y Fframwaith, rhowch y rhain drwy’r ddolen uchod.
Edrychwn ymlaen at eich ymateb, eich barn, a’ch awgrymiadau.
Gareth Williams
Arweinydd Safonau a Chymwysterau CITB (Cymru)
Share
Share on Twitter Share on Facebook