Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CITB yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pedwar diwrnod ar ddeg ar y broses o roi ystod o Lwybrau Fframwaith Prentisiaethau Adeiladu ar Lefel 3 FfCChC i Gymru ar waith.
Rydym yn gwahodd adborth ar y drafftiau diwygiedig o'r Llwybrau Fframwaith a byddai gennym ddiddordeb clywed gan brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, cyrff dyfarnu, aseswyr a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i sicrhau bod y Llwybrau Fframwaith diwygiedig yn addas at y diben.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn cynnwys ychydig o gwestiynau allweddol. Rhowch resymau wrth ochr eich atebion lle y bo modd.
Rydym yn eich gwahodd i roi sylwadau ar y Llwybr Fframwaith sydd fwyaf perthnasol i chi. Dylai hyn gymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Os dymunwch ymateb ar fwy nag un Llwybr Fframwaith, yna cwblhewch ddogfen ymgynghori ar wahân ar gyfer pob un.
Bydd y data yn yr ymgynghoriad hwn yn cael ei goladu gan CITB a’i rannu â Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Cynghori Prentisiaethau Adeiladu i ddarparu adroddiad mewnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd yr adroddiad yn amlygu unrhyw newidiadau a awgrymir yn y Llwybr(au) Fframwaith er mwyn sicrhau bod y Llwybrau Fframwaith Newydd yn addas at y diben. Bydd awgrym yn cael ei ystyried gan is-grŵp o'r Grŵp Cynghori Prentisiaethau Adeiladu i'w gynnwys yn y dogfennau llwybr terfynol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook